Caring for Your Leather Bag
If it gets wet.
If you get caught in the rain and your bag gets very wet, dry it carefully in a warm dry area, near to (but not on) a radiator. Direct heat contacting the leather bag can cause it to dry excessively and go stiff. If it is excessively wet it is best to empty it and stuff it with newspaper to maintain the shape.
If the leather bag dries out after time
If your leather bag becomes too dried out after time just with the natural elements, it may start to feel rough. It can also be a result of getting wet and then being artificially dried too many times. To keep your leather bag in its best condition it is important to exchange the oils which have will have been washed away.
To keep your leather bag nourished if it dries out, take a soft cloth lightly moistened with sunflower oil, vegetable oil or rapeseed oil and wipe over the surface and leave to dry. This may cause the leather bag to temporarily darken, however it will return to its natural colour when dry. A periodic treatment with a moist cloth will help to keep the leather soft and in good condition for years. Otherwise specialist products that nourish the leather are available from all good cobblers.
Natural leather Aroma.
New leather bags may have that special aroma. It is part of the rich experience associated with buying genuine leather. Because of the production process that uses natural oils rather than chemicals the aroma can be a little overwhelming for some. Here are some tips for getting rid of this leather smell quickly.
- Baking Powder – A light dusting of baking powder inside your leather bag will soak up any moisture, which can cause the scent. It can be messy though and leave white marks behind, so be very careful and vigilant if doing this.
- Newspaper - Old newspapers or packing paper are more porous than leather, which makes them excellent at absorbing odours. If you want to get rid of those odours from brand-new leather items quickly, you can pack them in newspapers or packing paper. The fibres of the paper act as wicks that lift the odours from the leather, and are also an excellent way of preserving the untreated reverse surfaces of leather items. Make sure that the leather item is completely dry, and that you're using dry newspapers. Newspapers are more effective than office paper, because the fibres are looser and that the paper itself is softer than other kinds of paper you may have around the house. Pack the leather items in paper overnight to draw out most of the odours.
Treating Scratches in Natural leather
Often you will find authenticating marks in leather. This is especially true of the crazy horse leather. Typical are light scratches on the surface these are hallmarks that make your bag unique. This adds to the delightful appeal of distressed leather. However if you prefer, these can sometimes be reduced just by rubbing it with your finger. Alternatively a drop of vegetable oil, sunflower oil, baby oil or rapeseed on cotton wool rubbed over the scratch can reduce this appearance (if you really want to!)
Waterproofing a Leather Bag.
Your leather bag will have been treated with natural oils that will help to protect it from water damage. This will subside over time and a waterproof spray can be used to protect the quality of the bag. There are plenty of these on the market, which you can buy from supermarkets and shoe shops.
Dye Transfers.
Dye transfer can sometimes be a problem associated with the darker crazy horse leather. To help prevent colour transference try to keep your bag away from anything wet.
Care is needed when using a new dark crazy horse bag; it is recommended to “break in the bag” (merely using it often and airing it well!) before any rubbing contact with light clothing.
There are some products available to buy that may help to reduce any colour transference. Here are a few recommendations:
Nixwax Fabric and Leather Proof
Timberland Waximum™ Waxed Leather Protector.
Colourlock waterproof spray for Nubuck, Suede & Fabrics.
Renapur Leather Balsam https://www.renapur.com (recommendation from a repeat customer)
In the case of dye transfer:
Dye transfer from leather to clothing is considered to be a “loose dye” stain. These are loose dyes or dyes that are on the surface of the fibres and can be removed with a few products that are readily available. An Oxy based stain removal powder will get the dye out.
If you look after your bag, it will serve you for years!
Gofalu am eich Bag Lledr
Os yw’r bag yn gwlychu.
Os ydych chi’n cael eich dal yn y glaw a’r bag yn gwlychu, sychwch ef yn ofalus mewn man cynnes, yn agos i (ond nid ar ben) reiddiadur. Gall gwres uniongyrchol ar y bag achosi iddo sychu yn ormodol gan wneud i’r lledr fynd yn stiff. Os yw’r bag yn wlyb iawn, yna mae'n well ei wagio a'i stwffio gyda phapur newydd i gadw’r siâp.
Os bydd y lledr yn sychu dros amser.
Gall eich bag lledr sychu yn ormodol dros amser. Gall hyn fod oherwydd yr elfennau, neu o oherwydd iddo gael ei sychu yn artiffisial ormod o weithiau wedi iddo wlychu. Er mwyn cadw eich bag lledr yn y cyflwr gorau, mae'n bwysig ailosod yr olewau sydd wedi eu golchi i ffwrdd.
I wneud hyn gallwch gymryd lliain meddal wedi ei iro yn ysgafn gydag olew blodyn yr haul, olew llysiau neu olew had rêp, yna rhwbio wyneb y lledr yn ysgafn a'i adael i sychu. Gall hyn achosi i’r bag lledr dywyllu dros dro; fodd bynnag, bydd yn dychwelyd i’w liw naturiol ar ôl sychu. Bydd sychu’r bag gyda lliain llaith o dro i dro yn helpu i gadw'r lledr yn feddal ac mewn cyflwr da am flynyddoedd. Fel arall fe allwch chi brynu cynnyrch arbenigol i drin y lledr o siopau crydd neu siopau esgidiau.
Arogl naturiol lledr.
Mae arogl arbennig i fagiau lledr newydd ac mae hyn yn rhan o’r profiad o brynu cynnych o’r fath. Oherwydd y broses gynhyrchu sy'n defnyddio olewau naturiol yn hytrach na chemegau gall yr arogl fod ychydig yn llethol i rai. Dyma rai awgrymiadau ynglŷn â chael gwared ar yr arogl lledr:
- Powdwr Pobi - Bydd rhoi ychydig o’r powdr hwn y tu mewn i'ch bag lledr yn amsugno unrhyw leithder, sy'n gallu achosi arogl. Gall hyn fod yn hen orchwyl ddigon cas sy’n gadael marciau gwyn ar ôl, felly rhaid bod yn ofalus iawn wrth wneud hyn.
- Papur Newydd - Mae papur newydd neu bapur llwyd yn fwy hydraidd na lledr, sy'n eu gwneud yn ardderchog am amsugno arogleuon. Os ydych chi am gael gwared ag arogleuon eitemau lledr newydd sbon yn gyflym, fe allwch chi eu pacio mewn papur newydd neu bapur llwyd. Mae ffibrau’r papur yn ymddwyn fel wiciau ac yn codi’r arogleuon o’r lledr. Mae hyn hefyd yn ffordd wych o warchod ochr fewnol cynnyrch lledr, sef yr ochr heb ei drin. Gwnewch yn siŵr bod yr eitem lledr yn hollol sych, a’ch bod yn defnyddio papur newydd sych. Mae papurau newydd yn fwy effeithiol na phapur swyddfa, oherwydd bod y ffibrau yn fwy llac a’r papur ei hun yn feddalach na mathau eraill o bapur sydd gennych chi o gwmpas y tŷ. Paciwch yr eitemau lledr yn y papur dros nos i gael gwared ar y rhan fwyaf o'r arogleuon.
Trin Crafiadau mewn Lledr Naturiol.
Yn aml, fe welwch chi farciau naturiol mewn lledr. Mae hyn yn arbennig o wir am y lledr ‘crazy horse’. Mae crafiadau ysgafn ar yr wyneb yn un o’r nodweddion sy'n gwneud eich bag yn unigryw ac ychwanegu at apêl hyfryd lledr henaidd yr olwg. Fodd bynnag, os yw'n well gennych chi gael gwared ar y marciau yma, mae modd eu gwneud yn llai amlwg drwy wneud dim byd ond eu rhwbio gyda'ch bys. Fel arall, gall rhwbio diferyn o olew llysiau, olew blodyn yr haul, olew babi neu had rêp dros y crafiadau gyda gwlân cotwm gael yr un effaith.
Diddosi Bag lledr
Bydd eich bag lledr wedi cael ei drin ag olewau naturiol a fydd yn helpu i’w ddiogelu rhag difrod dŵr. Bydd yr olew hwn yn pylu dros amser ac mae modd defnyddio chwistrell i ddiogelu ansawdd y bag. Mae digon o’r rhain i’w cael mewn archfarchnadoedd a siopau esgidiau.
Trosglwyddo lliw
Gall trosglwyddo lliw fod yn broblem sy'n gysylltiedig â'r lledr tywyll crazy horse. Er mwyn osgoi trosglwyddo lliw ceisiwch gadw eich bag rhag dod i gyffyrddiad ag unrhyw beth gwlyb.
Mae angen gofal wrth ddefnyddio bag newydd crazy horse tywyll - argymhellir ei ddefnyddio yn aml a gadael digon o aer ato cyn gadael iddo ddod i gyffyrddiad ag unrhyw ddillad golau.
Mae cynnyrch ar gael i'w prynu sy’n medru lleihau’r posibilrwydd o drosglwyddo lliw. Dyma rai argymhellion isod:
Nixwax Fabric and Leather Proof
Timberland Waximum™ Waxed Leather Protector.
Colourlock waterproof spray for Nubuck, Suede & Fabrics.
Os ydy lliw yn cael ei drosglwyddo:
Mae’r lliw sy’n cael ei drosglwyddo o ledr i ddillad yn cael ei gyfrif yn staen "rhydd" . Mae staeniau fel hyn yn gorwedd ar wyneb y ffibrau a gellir cael gwared arnyn nhw gyda chynnyrch sydd ar gael yn rhwydd. Bydd powdr gwaredu staen sydd ag ‘Ocsigen’ ynddo yn cael gwared ar y lliw.
Gofalwch am eich bag, ac fe’ch gwasanaetha am flynyddoedd!